Y Tiwniwr Piano

Y Tiwniwr Piano

by Catrin Dafydd (Author)

Synopsis

A second novel in Welsh by the author of Random Deaths and Custard. Efan, the piano tuner, has the key which gives him an insight to the secrets of his fellow citizens of Cardiff, but as he sees their secrets, he realises much more about his own life.

$4.22

Save:$5.88 (58%)

Quantity

1 in stock

More Information

Format: Paperback
Pages: 192
Publisher: Gomer Press
Published: 27 Jul 2009

ISBN 10: 1843239000
ISBN 13: 9781843239000

Media Reviews
Nofel gyfoes, wedi'i lleoli yn un o ardaloedd ifanc a phoblogaidd Caerdydd yw Y Tiwniwr Piano. Mae ei phrif gymeriad, Efan Harry, yn tynnu am ei ddeg ar hugain ac eisoes wedi troi ei gefn ar yrfa fel athro a dechrau or newydd wrth fynd o amgylch tai crach y brifddinas yn tiwnio pianos. Wrth iddo grwydro o dy i dy maen cael cip ar fywydau go iawn ei gwsmeriaid yn ogystal chael cyfle i wneud ffrindiau pur wahanol ir hen griw coleg mae on mynd i yfed efo nhw ir Shitty ar Clwb ar benwythnosau. Prif storir nofel ywr cyfeillgarwch pur annhebygol syn datblygu rhwng Efan a Gwen posh bird sydd dros ei phedwar ugain. Yn amlwg, mae Gwen yn fwy o angen cwmni na chael tiwnio ei phiano ac mae Efan yn falch or cyfle i fynd i weld Gwen er mwyn cael dianc rhag realiti ei fywyd bob dydd ai berthynas efo Ceridwen, ei gariad syn dyheu am gael babi. Camp Catrin Dafydd yw gwneud ir berthynas arbennig hon rhwng Gwen ac Efan fod yn un gwbl naturiol a chredadwy ac wrth i ni rannu meddyliau Efan pan mae draw efo Gwen, gwelwn fod y sefyllfan ddigon naturiol iddo yntau ar adegau hefyd. Mae ei ddadansoddiad o beth syn digwydd yn codi sawl gwn. Ceir yma hefyd gipolwg ar gymhlethdod bywyd dyn ifanc yn y brifddinas wrth ir mn straeon am gyfeillion a natur perthynas Efan a Ceridwen gael eu gwau o amgylch hanes Efan a Gwen ai chwn. Mae cyfrinachau ym mhob twll a chornel a dawn amlwg fod Efan a Ceridwen yn cadw gwirioneddau mawr oddi wrth ei gilydd. Wrth i Efan gael y cyfle i fod yn anffyddlon i'w gariad, dysgwn nad ydi Ceridwen yn gwbl onest efo fo chwaith, a gall y darllenwr ond meddwl beth fyddai wedi digwydd petai Efan yn gwybod y gwir i gyd. Mae nifer o bynciau mawr yn codi i'r wyneb yn y nofel ysgafn, rhwydd iw darllen hon anffyddlondeb, celu rhywioldeb, cenhedlu plentyn efo ffrind, y tyndra rhwng pobl Caerdydd ar mewnfudwyr Cymraeg newydd, hen gariad yn dychwelyd ond gadewir y pynciau hyn oll heb eu datrys a hynny, fe ellir dadlau, er mwyn cyfleu cymhlethdod a realiti bywyd Efan Harry. Dyma nofel sy'n werth ei darllen maen ddarlun o fywyd rhywun yn y cyfnod hwnnw rhwng gwylltineb ieuenctid a setlo lawr yn y brifddinas. William Gwyn Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council -- Cyngor Llyfrau Cymru