Artemis Gwarth

Artemis Gwarth

by EoinColfer (Author), Catrin Dafydd (Translator)

Synopsis

A Welsh version of Artemis Fowl, in which the twelve-year-old villain is the most ingenious criminal mastermind in history.

$11.61

Quantity

1 in stock

More Information

Format: Paperback
Pages: 336
Publisher: Gomer Press
Published: 16 Jun 2008

ISBN 10: 1843238438
ISBN 13: 9781843238430

Media Reviews
Disgrifir digwyddiadaur nofel hon fel pantomeim arallfydol gan un or cymeriadau sydd o fewn ei thudalennau ac ni allaf feddwl am grynodeb gwell ohoni. Yma cawn hanes y bachgen-ddihiryn Artemis Gwarth sydd i fryd ar adennill ffortiwn teulur Gwarthiaid wedi diflaniad ei dad. Mae gan Artemis gynllun mileinig i ddwyn trysor y tylwyth teg ac yn sicr mae ganddor ymennydd athrylithgar a fyddain gallu twyllor mwyafrif. Er ei fod yn llwyddo i gyfieithu beibl y tylwyth i ddarganfod llawer ou cyfrinachau, nid ywn gwbl barod am yr hyn sydd yn ei ddisgwyl wrth iddo gymryd y Capten Heulwen Pwyll yn wystl. Yng nghanol y cyffro ar erchylltra syn digwydd ym Mhlastyr Gwarth wrth i ni gwrdd r gorau ar gwaethaf or is-fyd, gwelwn hefyd bwysigrwydd teulu a ffyddlondeb yng nghanol hunanoldeb ac uchelgais. Mae gan hyd yn oed ddrwgweithredwr fel Artemis Gwarth deimladau ... Tipyn o gyfrifoldeb yw cyfieithu nofel sydd wedi gwerthu yn ei miliynau o amgylch y byd ac wedi esgor ar sawl nofel ddilynol. A bod yn onest, doeddwn i ddim yn gyfarwydd r bachgen-droseddwr Artemis Gwarth nac Artemis Fowl cyn darllen y nofel hon, ond gallaf ddweud m llaw ar fy nghalon ei bod yn nofel gyffrous a gwreiddiol syn dal sylwr darllenydd oi dechrau hyd at ei diwedd. Yng nghanol y dyfeisiadau technolegol gwych, y cynllwynio, yr ymladd ar antur, i mi, maer gwir gyffro wrth i ni ddarganfod nad yw popeth yma fel maen ymddangos ac nad ywr llinell rhwng da a drwg bob amser yn eglur. Er mai creaduriaid hud a lledrith ywr mwyafrif or rhai yr ydym yn cwrdd hwy yma, maent yn gymeriadau y byddwn in falch o ddarllen llawer mwy amdanynt. A dymar rheswm, mwy na thebyg, am lwyddiant y gwreiddiol ar nofelau sydd wedi ei dilyn yn Saesneg. Prif lwyddiant yr addasiad yw ei bod yn hawdd credu mai yn y Gymraeg yr ysgrifennwyd y nofel yn gyntaf, gydar iaith dechnolegol, yr enwau ar lleoliadau yn taro deuddeg ar cyfan yn darllen yn rhwydd iawn. Efallai mai nofel i blant ydy hi ond mae hon yn nofel a fyddain apelio at ddarllenwyr syn hoffi cyffro, antur ac ychydig o hud a lledrith, beth bynnag fou hoedran! Sioned Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru