Siani'r Shetland: Siani'n Achub y Dydd

Siani'r Shetland: Siani'n Achub y Dydd

by Anwen Francis (Author)

Synopsis

Siani, the mischievous Shetland pony, becomes a hero and saves the farm from disaster. First published in 2006.

$4.37

Quantity

1 in stock

More Information

Format: Paperback
Pages: 88
Publisher: Gwasg Gomer
Published: 01 Jul 2006

ISBN 10: 1843237369
ISBN 13: 9781843237365

Media Reviews
Dyma lyfr arall am y gaseg fach enwog, Siani. Hyfryd yw cael darllen y bedwaredd stori am Siani'r Shetland. Mae bob pennod o'r llyfr yn cynnwys hanesyn gwahanol am Siani a'r ebol bach newydd, Sioncyn; eto, mae yna linyn yn clymu'r cyfan. Ceir cynllun da i gadw diddordeb plant hyd ddiwedd y llyfr ac i ysu am fwy! Dyma lyfr sy'n llawn gwybodaeth am geffylau, sut i'w trin ac edrych ar eu hl ac am eu harferion. Mae'r awdur wedi llwyddo i bortreadu cymeriadau cryf ac wedi cyfleu i'r dim y berthynas rhwng y brawd a'r chwaer. Hyfryd yw darllen am gymeriadau o gig a gwaed sef Sara Edwards a Dafydd Jones; mae yma hefyd gyfeiriadau at leoedd go iawn sy'n ychwanegu at ddidwylledd y stori. Mae'r iaith yn cynnwys amrywiaeth gyfoethog o ansoddeiriau, idiomau, geiriau cyfansawdd a chymariaethau, gan gyflwyno geirfa newydd i nifer o blant fel penwas, rhathu a rhosglwm. Hoffais y cyffyrddiadau cyfoes fel y cyfeirio at y CCTV yn y stabl. Beth am ddefnyddio CCC tro nesa? Mae yn y stori rhywbeth i fechgyn a merched. Gresyn fod y lluniau yn ddu a gwyn; eto, mae eu cynnwys yn arbennig o dda a sensitif. Syniad da oedd rhoi lluniau pedol yma a thraw er mwyn torri'r testun a chadw sylw'r darllenydd. Hir oes i Siani'r Shetland! Gaenor Watkins Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru