Lili Dan yr Eira

Lili Dan yr Eira

by Meinir Pierce Jones (Author)

Synopsis

A novel about an old house, full of secrets and mysteries. A gripping story located in a farming community on Anglesey and dealing with agricultural and social issues. First published October 2007.

$3.47

Save:$8.56 (71%)

Quantity

2 in stock

More Information

Format: Hardcover
Pages: 330
Publisher: Gomer Press
Published: 31 Oct 2007

ISBN 10: 1843237032
ISBN 13: 9781843237037

Media Reviews
Nofel gron a thyn yw hon syn llawn dirgelwch a haenau. Datgelir ychydig bach o rai dirgelion yn gynnar, ond ar yr un pryd, maer awdur yn creu byd syn cynyddu yn ei gymhlethdod. Canolbwynt y byd hwn yw Glyn, sef tyr diweddar Ddoctor Cynwal. Ynddo, mae marwolaeth y doctor yn dod r prif gymeriadau, Nant a Nyrs Beti, at ei gilydd, i chwilio am loches oddi wrth realiti eu bywydau. Maer ty fel rhyw burdan o le, lle maent yn bodoli yn hytrach na byw, wrth iddynt ddod i delerau r bywyd sydd y tu cefn iddynt. I Nant, syn wynebu argyfwng canol oed, maer ty, sef ei chartref a symbol oi methiant, yn troin seintwar ac yn gymorth i ddechrau bywyd newydd heb ei gwr, Ed. Argyfwng henaint syn wynebu Nyrs Beti. Ac iddi hi, maer ty fel symbol or cyfnod pan oedd hin cael ei gwerthfawrogi fel nyrs yn y gymuned. Nawr, a hithaun tynnu at ei phymtheg a phedwar ugain, maen swatio yno gydai Kyffin, yn hytrach na setlo mewn cartref hen bobl. Dyma ddwy ecsentrig, a dweud y lleiaf. Fel dwy wrach wen, maen nhwn creu symbolau ac yn ceisio gwneud synnwyr o bethau. Daw merch arall i ymuno hwy -- Braint. Mae hon yn ifanc, yn llanast ar gyffuriau, ac wedi collii hunaniaeth. Ac o dipyn i beth, down i sylweddoli fod y tair cenhedlaeth syn glanio yn Glyn yn cynrychioli agweddau negyddol yn hanes gwragedd ar hyd y blynyddoedd: diffyg statws ac annibyniaeth; gorfod priodi; caethiwed cyffuriau. Nid Braint yn unig syn ceisio ailddarganfod pwy ydyw, felly, ond Nant a Nyrs Beti hefyd. Swnion drwm? Ddim o gwbl. Mae hiwmor yn tasgu o bob tudalen ac yn ganolbwynt ir arddull. Er bod yna drasiedi a threiddgarwch enbyd, dryswch teimladau, a pherthnasau ar chwl, mae doniolwch yn y ddeialog yn aml, ac ysgafnder sylfaenol yn y ffordd mae Meinir Pierce Jones yn datgelu cyfrinachau. Sin Reeves Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru