Dic Y Fet: Hunangofiant Richard Thomas

Dic Y Fet: Hunangofiant Richard Thomas

by RichardThomas (Author), Lyn Ebenezer (Author)

Synopsis

A volume comprising memories and events in the life of the vet from Cardigan who was responsible for a sizeable part of Ceredigion before retirement. Including references to many local characters - like Tom Pop and Dai Byngalo - and told in a lively style with frank humour through colourful local dialect. Contains a section of colour photographs, and a look at agriculture.

$4.64

Save:$6.07 (57%)

Quantity

2 in stock

More Information

Format: Paperback
Pages: 121
Publisher: Gomer Press
Published: 09 Nov 2005

ISBN 10: 1843235617
ISBN 13: 9781843235613

Media Reviews
Pwdryn oeddwn i, heb lawer o dalent dyna yw disgrifiad awdur y gyfrol hon ohono ef ei hun, ac eto lluniodd hunangofiant syn profir gwrthwyneb. Milfeddyg prysur a chydwybodol (wedi ymddeol bellach), siaradwr cyhoeddus dawnus a chaboledig, canwr syn un o sr ei gwmni opera lleol, a llawer o bethau eraill (gweler y lluniau ohonon atgyweirio hen ddodrefn, yn paratoi i hwylio yn ei gwch ei hun, ac yn marchogaeth anghenfil nerthol o foto-beic). Ond yn bennaf milfeddyg medrus, ar hyn syn ddwbwl-ddiddorol ynghylch y gyfrol ywr ffaith y ceir ynddi olrhain hanes dwy genhedlaeth o filfeddygon, a hynny yn yr un darn or wlad o gwmpas Aberteifi, canys mab i Tomos y Fet yw Dic y Fet. Yn naturiol bu newid mawr yn y gymdeithas wledig ac yn amgylchiadau gwaith y milfeddyg nid yn gymaint yng nghyfnod y tad, efallai, ond yn sicr yng nghyfnod y mab ac er bod yma barodrwydd i ganmol llawer gwelliant a fu dros y blynyddoedd, y mae yma ofid a phryder hefyd o weld yr hyn syn digwydd heddiw yn y Gymru Gymraeg. Yn wir, tua diwedd y gyfrol, maer awdur yn pregethun huawdl ar y pwnc hwn. Maen rhaid i ni gadwr Gymraeg yn fyw, meddai ar dudalen 116, ond wnawn ni byth mo hynny os na chadwn nir gymdeithas yn fyw; a chymaint yw ei frwdfrydedd nes ailadrodd yr un frawddeg air am air ar y tudalen nesaf! Chwarae teg iddo. Maer sefyllfa yn un i beri i unrhyw un wylltio, ac mae ei bregeth yn un hawdd iawn cytuno hi. Ond peidied neb chredu neb am foment mai cyfrol a ysgrifennwyd yn y cywair lleddf yw hon. Hydreiddir y cyfan hiwmor iach, llawer ohonon codin uniongyrchol o fyd milfeddygaeth, fel y stori honno am yr awdur ai dad yn mynd i olwg buwch a oedd yn dioddef o peritonitis, yr unig fuwch a feddai rhyw wraig fach oedd bob amser yn barod iawn ei chwyn. Dyna lwcus, meddai honno, ywr bobol hynny sydd heb wartheg i fecso yn eu cylch. A Tomos y Fet yn ateb, Wel, rwyn ofan y byddi dir un mor lwcus nhw fory. Bydd y sawl sy'n darllen y gyfrol hon yn dysgu llawer iawn am fyd y milfeddyg, ac yn sylweddoli yr un pryd pam fod cymaint o alw am wasanaeth Dic y Fet fel raconteur. Tegwyn Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru