Rara Avis

Rara Avis

by Manon Rhys (Author)

Synopsis

A novel set in a Rhondda valley village in the 1950s portraying the happiness and sadness of a ten-year old girl who records her childhood activities and emotions, and her complex relationship with peers and adults, especially her relationship with her emotionally unstable and alcoholic mother.

$4.11

Save:$6.95 (63%)

Quantity

2 in stock

More Information

Format: Paperback
Pages: 384
Publisher: Gomer Press
Published: 01 Apr 2005

ISBN 10: 1843235315
ISBN 13: 9781843235316

Media Reviews
Dron l, prynais ddau lyfr yn yr un diwrnod. Dwy nofel, dwy nofel Gymraeg, awduron cydnabyddedig. Dwy nofel hefyd syn mynd ni fymryn y tu hwnt i realaeth, syn ceisio ymestyn y ffiniau. Yna cefais gais i adolygu un or nofelau. Maen debyg, petawn wedi cael cais i ddarllen y llall, y buaswn wedi ei gorffen erbyn hyn, ond dyletswydd fuasai hynny. Roeddwn wedi gorffen darllen Rara Avis cyn ir cais gyrraedd -- a phleser fu hynny. Ddyweda i ddim prun ywr llyfr arall -- dyfalwch! -- ond y mae nofel Manon Rhys yn haeddu ymdriniaeth lawn a manwl. Nid dyma gewch chi yma, ond mi fedra i o leia geisio rhannu peth or wefr, a phigo ar bwyntiau sydd weithiaun taro mor fyw a chywir fel eu bod nhwn boenus. Branwen. Brainwen or whatever ... Ar holl enghreifftiau eraill o mor ddi-hid y mae pobl am eich enw, y peth mwyaf personol sydd gan y ferch. Ond maen nhwn ffeind, hefyd, ei ffrindiau. Ac weithiau mi gewch atgof o rywbeth sydd heb ddiflannu. 'Licoch clywed yn wilia yn Gwmrg; gwetwch rwpath arall yn Gwmrg!' 'Pam na chawn ni siarad yn Gymrg pan ddaw dy dad sha thre?' 'Pops yn gallu bod yn od ymbythtu pethe felna. Ma fen Labour Party, twel.' Ond tydi bywyd ddim yn hawdd, ddim yn fl, ddim yn llinellau syth o brint oedolion i Branwen Dyddgu Roberts. Fel mae Secrets Branwen Dyddgu Roberts yn ei ddatgelu. A datgelu mwy wrth iw hysgrifen newid, iw harddull newid, i iaith y bobl oi chwmpas newid, y Cymry cynhenid, y Cymry cudd, y Cymry Saesneg eu hiaith. Mae Rara Avis yn hedfan ymhell i ffwrdd oddi wrth y nofel wledig. Maer aderyn prin yma yn herior darllenydd. Brysiwch, slapiwch y rhybudd iechyd arni: GALL DARLLEN Y NOFEL HON DDIFRODI EICH RHAGDYBIAETHAU. Maer nofel hon yn peri i chi feddwl, yn peri i chi ddinistrio llawer och delweddau cyfforddus am y Cymoedd ac am Gymreictod, hyd yn oed. Gallai puryddion iaith sydd ddim yn hoffi bratiaith a marinas a phethau eraill anghydnaws bywyd go-iawn ffeindio llawer o bethau iw drwg-leicio yn y llyfr hwn. Fel maen nhw wiriona. Meg Elis Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru