Hoff Gerddi Serch Cymru

Hoff Gerddi Serch Cymru

by Bethan Mair (Author), Bethan Mair (Author)

Synopsis

A diverse collection of the best-loved Welsh love poems, comprising 73 poems in free and strict metre encompassing a period from the 13th to the end of the 20th century. Reprint. First published in May 2002.

$15.45

Quantity

2 in stock

More Information

Format: Paperback
Pages: 100
Publisher: Gomer Press
Published: 25 May 2002

ISBN 10: 1843230143
ISBN 13: 9781843230144

Media Reviews
Ydi, mae Robin yn swil, fel y cawn ein hatgoffa gan gerdd Talhaiarn yn y gyfrol hon, ond beth am ei gyd-Gymry? O'i chymharu a'i rhagflaenydd, Hoff Gerddi Cymru 'Gwerthwr gorau barddoniaeth Gymraeg' yn ol y blyrb methwyd a threfnu cynnwys y flodeugerdd hon yn nhrefn ffafriaeth gan mai un enwebiad yn unig a dderbyniodd sawl cerdd; y golygydd ei hun, Bethan Mair, a ddewisodd ambell un arall. A hynny yn nyddiau Tabw a Procar Poeth pan fo Cymry, hen ac ifanc, yn fodlon brolio ac arddangos eu campau rhywiol gerbron y genedl! Pwy felly yw Casanova'r beirdd, ar sail tystiolaeth Hoff Gerddi Serch Cymru? Wel, ac yntau'n awdur pedair o blith y 73 o gerddi rhwng cloriau'r gyfrol hon, Dafydd ap Gwilym sy'n hawlio'r llysenw hwnnw. Ei gywydd llatai ysblennydd i'r wylan ynghyd a 'Rhieingerdd', telyneg John Morris-Jones, a 'Lleucu Llwyd', can bop Dewi Pws, yw'r teitlau a enwyd amlaf gan y rhai a enwebodd gerddi ar gyfer y llyfr. Mae'n gasgliad eclectig, felly: saif 'Fy Newis Riain Firain Deg' gan Hywel ab Owain Gwynedd o'r drydedd ganrif ar ddeg gyferbyn a 'Ceidwad y Goleudy' Emyr Huws Jones o'r ugeinfed ganrif; daw 'Myfanwy' Fictoraidd o flaen dyfyniad o araith Llywelyn i Siwan o ddrama glasurol Saunders Lewis. Rhan o'r hwyl gyda blodeugerdd fel hon yw gweld i ba raddau y mae dyn yn cyd-fynd a'r dewis a pha gerddi y byddai ef ei hun wedi'u cynnwys. Un o'n prif feirdd serch na chynrychiolir mohono fan hyn, a hynny am mai ysbrydol rhagor cnawdol yw'r serch y mae'n canu amdano, yw William Williams, Pantycelyn: ''Rwy'n edrych dros y bryniau pell / Amdanat bob yr awr; / Tyrd, fy Anwylyd, mae'n hwyrhau, / A'm haul bron mynd i lawr ...' Ond gan fod rhan o ddrama fydryddol arall ganddo wedi'i dyfynnu, mi fyddwn i wedi neilltuo cryn dipyn o ofod ar gyfer drama fwyaf nwydus yr iaith, sef Blodeuwedd Saunders Lewis: araith glo Blodeuwedd ar ddiwedd yr act gyntaf, er enghraifft, ei haraith yn yr ail act ('Mae'n cyrff ni yn ddihysbydd...') a geiriau Llew Llaw Gyffes, 'Di ferch y blodau ...' yn yr un act. Cerddi eraill y byddwn i wedi sicrhau lle ar eu cyfer drwy fodloni ar ddetholiad yn unig o awdl Robin Llwyd ab Owain, dyweder, yn hytrach na'i chynnwys yn ei chyfanrwydd fyddai 'Concwest' a 'Saesnes' Sion Eirian o'r dilyniant a enillodd iddo Goron 1978 ac un o'r cerddi serch salmaidd a enillodd i Meirion Evans y Goron y flwyddyn ganlynol; 'Telyneg' Elin ap Hywel yn Pethau Brau; o leiaf un o englynion T. Arfon Williams i'w briod; a 'Llygad fy Nghariad' Bobi Jones ('Brown yw d'olygon megis ffos ar agor ...') a fyddai wedi gwrthgyferbynnu a serch delfrydoledig 'Rhieingerdd' Morris-Jones ('Dau lygad disglair fel dwy em ...'). Ond waeth heb a chodi pais: onid oedd gwahoddiad i minnau enwebu cerddi petawn i am ddal ar y cyfle? A chalon fawr goch yn sws glec ar ganol ei chlawr, gwnai'r gyfrol anrheg pen-blwydd iawn ar gyfer cariad. Nid llyfr bwrdd coffi mohono llyfr erchwyn gwely, efallai ... Gerwyn Wiliams Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru