Bren Babi

Bren Babi

by Bethan Mai (Illustrator), Mari Lovgreen (Author), Bethan Mai (Illustrator), Mari Lovgreen (Author)

Synopsis

A collection of diverse stories, written by mothers who share their experiences, fears and aspirations regarding raising children.Humorous, awkward and more serious situations are presented, but the main theme is - EVERYTHING IS NORMAL! An uplifting and encouraging book for all prospective parents!

$4.49

Quantity

1 in stock

More Information

Format: Paperback
Pages: 175
Publisher: Gomer Press
Published: 15 Nov 2017

ISBN 10: 1785622137
ISBN 13: 9781785622137

Media Reviews
Maer gyfrol hon yn gwneud sawl cymwynas fawr gyda rhieni newydd. Yn gyntaf, nid ywn trio rhoi cyngor. Nid manual mohoni, ac mae hynnyn beth da iawn! Wedi geni plentyn mae cyngor yn dod o bob cyfeiriad, ac yn aml iawn maer cyngor yn drysu rhywun. Oes, mae yna ddarnau bach, rhestrau, manteision ac anfanteision gwahanol bethau ar ddiwedd penodau, ond maen nhwn ddoniol, yn agos atoch, yn gefnogol yn hytrach na beirniadol. Er enghraifft, cyngor newid clwt: Hogyn? Daliwch y bidlan i lawr rhag ofn i chi gael llond llygad o bi-pi. Adrodd profiadau maer gyfrol hon, ac maer rheiny yn gymysgfa or dwys ar doniol, gan adlewyrchur cyfnod cynnar hwnnwn berffaith. Mae arddull cwbl naturiol yr ysgrifennu yn ychwanegu at agosatrwydd a dilysrwydd y straeon hefyd. Yn ail, maen atgoffa rhywun am y cyfnod hwnnw. Mae llawer wedi ei ddweud yn ddiweddar ynghylch yr angen i siarad mwy am bethau fel iechyd meddwl a salwch l-geni. Maen siwr mai un rheswm pam nad ydym yn siarad am bethau yw ein bod yn anghofio. Ryn nin anghofior profiadau poenus hynny ac yn ei wneud eto! Wrth ddarllen y gyfrol mi wnes i feddwl o ie, anghofiais i am hynny! dro ar l tro! Maer disgrifiadau o deimladau, o newidiadau ir corff ac ati, yn gwneud i rywun wingo a chwerthin ar yr un pryd. Mae'r cyfan weithiaun gignoeth o onest, ac maer gyfrol mor werthfawr oherwydd hynny. Mae yna vignettes bach ynglyn r heriau y maer babi bach yn eu cyflwyno. Er enghraifft, dyma berl: Gafodd y mab gachiad anferth mewn lle softplay unwaith. Wnes i symud y peli i guddior pw ai heglu hi o na reit handi. Yn drydydd, maer gyfrol yn pwysleisio ffaith bwysig ofnadwy, sef bod profiad pawb yn wahanol. Er enghraifft, ar ddechrau un bennod, mae un fam yn dweud sut na wnaeth bwydo or fron greu bond rhyngddi ar plentyn. Yn fuan wedyn mae mam arall yn dweud i'r gwrthwyneb yn llwyr, ac mae'r amrywiaeth hwnnw'n codin naturiol or criw o famau sydd wedi cyfrannu. Diolch yn fawr iawn i Mari Lovgreen ar cyfranwyr i gyd am fod mor onest. Er nad rhyw gyfrol self-help draddodiadol mohoni, bydd hin gyfrol amhrisiadwy i rieni a darpar rieni am flynyddoedd lawer i ddod. Alaw Griffiths Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru