Abermandraw

Abermandraw

by RhysIorwerth (Author)

Synopsis

In his first volume of prose, Rhys Iorwerth introduces us to the fictional Welsh town of Abermandraw and some of its fascinating characters.

$3.21

Save:$6.68 (68%)

Quantity

1 in stock

More Information

Format: Paperback
Pages: 135
Publisher: Gomer Press
Published: 06 Feb 2017

ISBN 10: 1785620711
ISBN 13: 9781785620713

Media Reviews
Tybed faint o bobl fyddai eisiau byw yn Abermandraw ar l darllen y gyfrol ddifyr a gwahanol yma? Mae'r awdur, Rhys Iorwerth, yn enw y byddwn fel arfer yn ei gysylltu barddoni, ac mae'n fardd hynod lwyddiannus. Yn ogystal ag ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2011, enillodd Un Stribedyn Bach gategori'r gyfrol farddoniaeth orau yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2015. Ond dymar tro cyntaf iddo fentro cyhoeddi cyfrol o ryddiaith, a bu cryn edrych ymlaen at gyhoeddi hon, byth ers ir stori gyntaf gael ei chyhoeddi yn Or Pedwar Gwynt ychydig cyn y Nadolig. Mae Abermandraw yn dref ddychmygol rywle yng ngogledd-orllewin Cymru, syn debyg iawn i dref go iawn yng ngogledd-orllewin Cymru. Ceir pob math o bobl yn byw yn y dref hon; nid fod hynny ynddoi hun yn beth annisgwyl mewn tref gymharol fawr. Ond penderfynu canolbwyntio ar gymeriadau ar ymylon cymdeithas a wnaeth Rhys Iorwerth; pobl sydd, am eu rhesymau eu hunain, fel pe baent yn gweithion galed iawn i greu rhyw haen rhyngddyn nhw au bywydau bob dydd. Gamblo, cyffuriau, alcohol, rhyw, caredigrwydd, hyd yn oed dim ots beth, dim ond ei fod yn gweithio ir unigolyn. Ond i raddau, a thros dro yn unig y maer pethau yman gweithio, wrth gwrs. Ac mae yna ryw deimlad o dristwch ac anobaith yn llifo drwyr gyfrol mor araf llif afon Braw, sydd yn hollbresennol yn y straeon. Ceir enwau digon rhyfedd ar y cymeriadau, megis Slender Len, Shimon Sharck, Regan a Ronan Brenig, Elin Baba, Marzipan Morris a Petal Wynne, i enwi dim ond rhai. Ceir pennod am hanes pob un or rhain, a mwy o gymeriadau brith y dref, ac er ein bod yn dod i adnabod rhai ohonynt yn well nai gilydd, cipolwg a gawn ar eu bywydau, a does dim cyfle go iawn i fynd o dan groen y bobl yma. Maen nhwn bobl gyffredin, yn bobl sydd u gwreiddiau yn yr ardal gan fwyaf ac yn bobl y gallai rhywun ddod ar eu traws yn hawdd mewn unrhyw dref yng Nghymru. Ond hanesion digon anghyffredin sydd yn cael eu hadrodd yma. Canolbwynt y stori ywr paratoi, ar edrych ymlaen hyd yn oed, at y te claddu yn y Windsor Hotel, ond a fydd yr angladd yn digwydd? Bydd yn rhaid i chi ddarllen yr hanes! Maer gyfrol wedi ei hysgrifennu trwy lygaid adroddwr syn rhyw fath o linyn cyswllt rhwng y gwahanol straeon. Maer ysgrifennun goeth ac yn gyfoethog, yn farddonol ac yn draddodiadol. Ac fel y gellid disgwyl, wrth gwrs, mae'n ffraeth, yn ddoniol ac yn ddwys, gyda thafod yr awdur wedi ei phlannun sownd yn ei foch am rannau helaeth or stori. Mae yna ddychan ddeifiol wrth drin a thrafod ein cymdeithas ni heddiw. Wrth ddarllen y gyfrol, fe ddylech chwerthin, fe ddylech arswydo, fe ddylech gydymdeimlo ac fe ddylech fwynhau. Maer clawr, a ddyluniwyd gan Rhys Aneurin, yn syml iawn ac yn hynod o foel a diaddurn, ond mae'n fwy trawiadol oherwydd hynny. Hefin Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru